Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio

8 Hydref 2014, Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Nodyn o'r Cyfarfod ynghylch toiledau cyhoeddus a'r Bil Iechyd y Cyhoedd newydd 

 

Yn bresennol

Ymddiheuriadau

Mike Hedges AC - CADEIRYDD

Ana Palazón, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc

Rosanne Palmer, Age Cymru - YSGRIFENNYDD

Phil Vining, Age Connect

Jackie Radford, Staff Cymorth Aled Roberts AC 

Lorraine Morgan, Ymgynghorydd ar Heneiddio

Frances Laing, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr 

Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol

Fiona Guthrie, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

 

Ryland Doyle, Staff Cymorth Mike Hedges AC 

Laura Nott, Age Cymru

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol

Pensiynwyr Cymru 

 

Iwan Williams, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn 

 

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

 

Robin Moulster, BASW Cymru

 

Nick Wall, Staff Cymorth Mick Antoniw AC 

 

Nancy Davies, Fforwm Pensiynwyr Cymru

 

Maria Cheshire Allen, Canolfan Heneiddio

Arloesol, Prifysgol Abertawe

 

Kieron Rees, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

 

Simon Hatch, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

 

Mark Isherwood AC

 

Iwan Rhys Roberts, Age Cymru - 

YSGRIFENNYDD

 

 

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Mike Hedges AC bawb i'r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau. 

Materion yn codi o'r cyfarfod blaenorol

      Yn dilyn argymhellion/camau gweithredu cyfarfod 7 Mai, cadarnhaodd Mike Hedges fod llythyr wedi'i anfon at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ansawdd toiledau cyhoeddus a'r mynediad atynt, gan gynnwys defnyddio toiledau cyhoeddus mewn banciau a llyfrgelloedd.

      Laura Nott i gadarnhau a oedd cofnodion y cyfarfod hwn [7 Mai] wedi'u hanfon ar ffurf llythyr ar gyfer ymgynghoriad y Bil Iechyd y Cyhoedd. (Nodyn – cadarnhaodd Laura Nott ar 13 Hydref fod hyn wedi'i wneud.) 

 

'Cefnogi a chynnwys gofalwyr pobl gyda dementia' – cyflwyniad gan Fiona Guthrie a Frances Laing, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr  

 

Cyflwynodd Simon Hatch a Kieron Rees y cyflwyniad hwn drwy roi gwybodaeth gefndir i Ymddiriedolaeth y Gofalwyr.

 

Dechreuodd Frances Laing drwy egluro fod gan ei diweddar fam ddementia; fod gan ei brawd ddementia cynnar a bod ei gŵr wedi cael diagnosis o ddementia. 

 

Dywedodd fod oedi gyda chael diagnosis o ddementia yn golygu'n aml nad oes cymorth i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ystod y camau cynnar o ddementia.

 

Eglurodd Frances oherwydd y profiadau negyddol yr oedd wedi'u cael â'i brawd a'i ddementia a'r diffyg cymorth a gafodd gan awdurdodau gofal, ei bod yn poeni am ei dyfodol hi a dyfodol ei gŵr.

 

Nid oeddent wedi gallu dod o hyd i ganolfan ofal a oedd yn gallu diwallu anghenion brawd Frances oherwydd y diffyg darpariaeth ar gyfer dementia cynnar. Pan oedd ei brawd yn yr ysbyty, dywedodd Frances nad oedd yn teimlo ei bod wedi cael unrhyw gymorth gan yr ysbyty. 

 

Eglurodd hefyd sut yr oedd symud ei brawd dro ar ôl tro wedi cael effaith andwyol ar ei ymddygiad a'i gyflwr.

 

Er bod gan Frances atwrneiaeth dros faterion ei brawd, nid oedd staff yr ysbyty yn gwrando arni. 

 

Roedd yn cael gormod o feddyginiaeth ac yn methu bwyta, gan adael ei geg yn llawn bwyd, a oedd yn beryglus. 

 

Ar un achlysur, disgynnodd o'r gwely.

 

Nid oedd staff wedi gwirio meddyginiaeth ei brawd ac roedd ei bwysau gwaed wedi gostwng. 

 

O dan oruchwyliaeth gofalwr â thâl, roedd brawd Frances mor ddadhydradedig y gallai fod wedi niweidio ei arennau a'i roi ar drip. 

 

Hefyd, tra roedd o dan oruchwyliaeth gofalwr â thâl, roedd ystafell wely brawd Frances wedi cael ei gorchuddio mewn ysgarthion. 

 

Eglurodd Frances pan oedd yn rhaid iddi roi ei brawd yn yr ysbyty, ni chafodd unrhyw gyngor ac ailadroddodd nad oedd yr ysbyty yn gwrando arni.

 

Daeth i'r casgliad drwy ddweud ei bod yn teimlo'n unig a bod angen cyfleusterau priodol arnom i ofalu am bobl sy'n byw gyda dementia.  

 

Ychwanegodd Fiona Guthrie fod hanes Frances yn eithaf cyffredin a bod llawer o ofalwyr yn aml yn teimlo dan bwysau ac yn ddiymadferth.         

 

 

Sylwadau a chwestiynau

 

Mike Hedges AC - yn llawer rhy aml, mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwneud pethau i bobl yn hytrach na gyda hwy - “y meddyg ymgynghorol sy'n gwybod orau”. Hefyd, nid yw awdurdodau lleol yn darparu gofal cymdeithasol yn uniongyrchol mwyach, ond yn comisiynu asiantaethau

 

Frances Laing – nid oes rhaid i ofalwyr â thâl fod yn gymwysedig mewn dementia. 

 

Mike Hedges AC – nid oes angen i ofalwyr â thâl fod yn gymwysedig! Caiff gofal ei ddyrannu ar sail pris nid ansawdd. Nid yw buddsoddi mewn ysbytai yn datrys problemau iechyd.

 

Frances Laing – Cefais wybod y gallwn gael taliadau uniongyrchol, ond ni ddigwyddodd hynny.

 

Mike Hedges AC – byddai taliadau uniongyrchol yn addas i Frances, ond nid i bawb oherwydd gall aelodau'r teulu gamddefnyddio'r system.    

 

Nancy Davies – mae angen ymgyrch addysg a noddir gan y llywodraeth arnom er mwyn dysgu'r cyhoedd am ddementia. 

 

Robin Moulster – mae gofal yn ymwneud â chael yr agwedd gywir, yn ogystal â'r hyfforddiant cywir. At hynny, dylai awdurdodau lleol ystyried anghenion y gofalwr os oes gan unigolyn asesiad o anghenion a chynllun gofal. Mae gan y gofalwr hefyd yr hawl i gael asesiad annibynnol o'i anghenion.

 

Frances Laing – Roedd yn anodd iawn imi gael asesiad gofalwr. Os nad ydych yn deall y system ofal, mae'n anodd cael cymorth.

 

Robin Moulster – mae'n hanfodol bod sefydliadau gofal a gofalwyr yn cyfathrebu. Mewn sawl achos, caiff sefydliadau gofal eu talu gan awdurdodau lleol i ddarparu gofal o'r safon uchaf, ac mae'r gofal hwnnw yn cynnwys ymddygiad staff. Mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i gydymffurfio â safonau penodol a dylid defnyddio asiantaethau monitro i sicrhau y caiff y safonau eu cyrraedd

 

Frances Laing – mae'n anodd cwyno am ofal gwael. Pan mae'n eich wynebu, y peth olaf rydych am ei wneud yw llenwi ffurflen. Mae cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch hefyd yn anodd. Mae sefydliadau'n cau oherwydd toriadau mewn cyllid yn cael effaith ond mae'r ddarpariaeth eisoes yn anghyson iawn.

 

Simon Hatch – Mae profiadau Frances yn feirniadaeth ddinistriol o sut y mae gwasanaethau gofal wedi ei chefnogi hi a'i theulu. Mae ei phrofiadau gorau'n gysylltiedig â'r elusennau sydd wedi'i chefnogi. Nid yw deddfwriaeth yn cyfleu'n realiti. Mae angen inni ofalu am ofalwyr. Nid yw'r neges bod y gofalwr yn hollbwysig yn cael ei chyfleu.

 

Robin Moulster – dylai gweithwyr cymdeithasol gynghori gofalwyr am y gwasanaethau gofal sydd ar gael. Dylent gyfleu profiadau gofalwyr i'r comisiynwyr gofal. Mae rhai gwasanaethau da ar gael – fel gwasanaethau ailalluogi, ond mae'n achos o loteri cod post. 

 

Frances Laing – a ddylai gweithwyr cymdeithasol gwyno?

 

Robin Moulster – dylent, ond mae gan ofalwyr yr hawl i gwyno hefyd. 

 

Mike Hedges AC – Os yw'r system yn gweithio'n iawn, gweithwyr cymdeithasol ddylai fod yn ymdrin â'r gŵyn. Beth am sefyllfaoedd pan fo gofalwr o bell neu pan nad oes gofalwr? Dylai gweithwyr cymdeithasol reoli'r gofal a gaiff pobl.

 

Fiona Guthrie – Rwy'n cytuno. Faint o bobl sy'n gwybod sut beth yw gofalu am rywun gyda dementia?

             

Mike Hedges AC – yn aml iawn, nid deddfwriaeth yw'r ateb. Gall ymwneud ag unigolion a hyfforddiant. 

 

Argymhellion/camau i'w cymryd

Mike Hedges i siarad gyda Jane Hutt ac Adam Cairn am brofiadau Frances Laing

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 11 Chwefror 2015